P-06-1398 Cynyddu effeithiolrwydd gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru i atal llygredd yn y Teifi.
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Moira Williams, ar ôl casglu 1,321 o lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r afon Teifi yn marw oherwydd lefelau llygredd.
Rydym yn galw ar y Senedd i gynyddu’r cyllid a roddir i
Gyfoeth Naturiol Cymru i’w alluogi i gyflawni ei
rwymedigaethau mewn perthynas â monitro iechyd yr afon a
gorfodi gofynion cyfreithiol.
Rydym hefyd yn galw ar y Senedd i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol
Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif am ei berfformiad. Byddai hyn yn
helpu i ddiogelu’r Teifi ar gyfer cenedlaethau’r
dyfodol, fel y cynigir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r
Dyfodol 2015.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae lefelau llygredd yn y Teifi yn uchel. Mae niferoedd eogiaid,
dyfrgwn a bywyd dyfrol arall yn gostwng yn ddifrifol.
Mae’r Teifi yn Ardal Cadwraeth Arbennig sydd dan fygythiad
oherwydd llygredd a newid hinsawdd. Mae data a ddarparwyd gan
Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod ansawdd dŵr isel yr afon
yn golygu bod 78 y cant o’r cyrff dŵr yn y dalgylch
wedi’u categoreiddio’n ‘wael’ neu’n
‘gymedrol’ o dan yr Asesiad Fframwaith Dŵr.
Yn yr un modd, mae rhannau helaeth o'r afon yn methu â
chyrraedd lefelau targed o ran ffosffadau ac mae astudiaeth gan
Gyfoeth Naturiol Cymru yn dangos bod y poblogaethau eog a lamprai
mewn perygl o ddiflannu yn ystod y 15 mlynedd nesaf.
Mae newid hinsawdd wedi arwain at lefelau dŵr isel yn y
gwanwyn a thymheredd dŵr uwch, sydd wedyn wedi arwain at
ordyfiant algâu a lefelau ocsigen is yn y dŵr.
Yn 2022, bu 1,889 o ollyngiadau i’r afon drwy ollyngfeydd
carthion cyfun a barodd 14,079 o oriau, y chweched afon waethaf yng
Nghymru a Lloegr o ran hyd y gollyngiadau carthion.
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr
· Canolbarth a Gorllewin Cymru